Select Language
Mae’r safle wedi’i ddewis yn ofalus fel rhan o broses ddichonoldeb manwl gan ystyried nifer o bethau fel: Amwynder preswyl, capasiti grid, dynodiadau amgylcheddol, treftadaeth ddiwylliannol, ecoleg, bioamrywiaeth, perygl llifogydd ac ansawdd tir amaethyddol. Er mwyn llywio dyluniad y cynllun terfynol ac ymateb i unrhyw bwyntiau sydd wedi’i chodi, cyflawnwyd arbenigwyr technegol astudiaethau manwl.
Mae’r safle mewn pant, felly mae’r dopograffeg naturiol yn sgrinio’r datblygiad. Er mwyn sicrhau fod y safle ddim yn weladwy o’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) i’r gogledd, cymerwyd gofal wrth leoli’r datblygiad.
Rydym yn deall pam y byddai’n well gan rhai pobl ddatblygu systemau storio egni barti ar safleoedd tir llwyd, ond, mae tir llwyd wedi’i hanfod yn fwy addas ar gyfer datblygiadau preswyl neu ddatblygiadau masnachol eraill.






Technoleg.
Mae storio batri naill ai’n gysylltiedig gyda ffynonellau egni adnewyddadwy neu’n wedi’u gysylltu’n uniongyrchol gyda’r rhwydwaith trydan. Mae’r prosiect yma’n gyfleuster annibynnol sy’n cysylltu’n uniongyrchol gyda’r grid. Ar adegau pan fydd trydan dros ben ar gael, bydd y batris yn cael eu gwefru, gan ganiatáu egni cael eu rhyddhau neu ei alw arno gan y rhwydwaith trydanol ar alw ar gyfer sawl argyfwng a chydbwyso grid (cadw’r grid yn sefydlog, ymateb i newidiadau sydyn neu amrywiadau). Yn ogystal, bydd hwn er mwyn cwrdd â galw brig dyddiol, fel arfer tua 6yp pan fydd y rhan fwyaf o ffyrnau, tegellau a hyd yn oed batri ceir cenhedlaeth gyntaf a gwefr yn dechrau gorchmynni trydan.
Buddion.
Bydd y cynigion yn cynnwys ystod eang o welliannau amgylcheddol bydd yn sgrinio’r datblygiad o’r hawl tramwy cyhoeddus cyfagos ac yn gwella cysylltedd cynefinoedd gyda’r coetir cyfagos.
Rydym yn ymgysylltu gyda menter gymdeithasol sydd wedi’i sefydlu yn Ynys Môn gyda’r bwriad o ddosbarthu buddion lleol.
Byddwn yn ymgeisio am ganiatâd cynllunio dros dro a bydd y datblygiad yn cael ei digomisiynu’n llawn ar ddiwedd yr amserlen weithredol. Ni fydd y datblygiad yn newid statws y tir o ran pwrpas cynllunio yn dilyn y cyfnod yma ac felly bydd yn dychwelyd i ddefnydd amaethyddol.
Mae gan dechnoleg systemau storio batri rhan allweddol wrth ategu ffynonellau egni adnewyddadwy fel solar a gwynt. Cefnoga hyn y grid gydag amlder ymateb a phŵer adweithiol cyn, yn ystod ac ar ôl gwall yn y grid. Bydd hyn yn lliniaru unrhyw risg o blacowt lleol ar y rhwydwaith trydanol lleol.
EVOLVING CONCEPT DESIGN.
Newid Hinsawdd ac Ecoleg.
Yn ogystal i hyn, yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i Gymru gwrdd â 100% o’i anghenion trydanol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Bydd hyn yn gofyn am ddefnydd cyflym ac ehangach o bŵer carbon isel, wedi’i gefnogi gan Systemau Storio Egni Batri.
Fel rhan o’n hymrwymiad i weithredu’n gynaliadwy rydyn yn cydnabod pwysigrwydd diogelu a gwella’r amgylchedd. Rydym yn caffael cyngor cymwysedig annibynnol oddi wrth ecolegydd er mwyn mesur gwerth bioamrywiaeth pob prosiect a dylunio gwelliannau er mwyn darparu enillion bioamrywiaeth.
Digwyddiad Ymgynghoriad Cyhoeddus.
Cytunwyd Boom Power gyda’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Brif Gynllunydd Llywodraeth y DU, a bwysleisiodd fod angen i geisiadau cynllunio sy’n cael effaith cadarnhaol ar y wlad a chymunedau lleol barhau i gael eu cyflwyno.
Yn ogystal, credwyd Boom Power ei fod yn hanfodol i gymunedau lleol allu gweld a dylunio ceisiadau cynllunio lle gallai fod effaith.
Cafodd ein hymgynghoriad cyhoeddus eu cynnal ar Ddydd Mawrth 28ain o Chwefror 2023 o 1yp – 6yp yn HWB Cemaes, Lon Glasgoed, Cemaes, LL67 0HN. Rhoddodd hwn cyfle i gwrdd â’r tîm prosiect, dysgu mwy ynglŷn â’r cynnig a gweld ein cynlluniau. Diolch i bawb am fynychu!
Cysylltwch â ni.
Rydym yn ymrwymedig i aros yn agored ac yn ym gysylltiedig gyda’r gymuned yn ystod y broses yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag ein cynnig prosiect plîs defnyddiwch y ffurflen cysylltu er mwyn cysylltu gydag aelod o’r tîm.
Plîs rhowch eich manylion cysylltu os hoffech chi dderbyn ymateb. Gall unrhyw wybodaeth a ddarperir cael ei ddefnyddio at ddiben ein cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac ni chaiff ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Rydym yn parchu eich preifatrwydd a bydd yr holl fanylion personol gan gynnwys eich enw, cod post, a manylion cyswllt yn aros yn ddienw.